Gwobrau Cyfryngau Cymru 2025 – yr ennillwyr
- Triphlyg buddugoliaeth i wythnosolyn canolbarth a gorllewin Cymru
- Ystod eang o enillwyr o bob cwr o newyddion darlledu, print ac ar-lein
- Newyddiaduraeth ymchwiliol yn cael ei hanrhydeddu
Dathlwyd newyddiaduraeth lleol yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2025 (a gynhaliwyd ar 16 Ionawr) gyda’r Cambrian News yn ennill tair prif wobr.
Enillodd Debbie Luxon (llun uchod) gohebydd ar y papur, brif wobr y noson, sef Newyddiadurwr y Flwyddyn, ar ôl cael ei henwi’n Awdur Newyddion y Flwyddyn hefyd. Pleidleisiwyd y Cambrian News yn Bapur Newydd Wythnosol y Flwyddyn.
Dewiswyd enillydd gwobr Newyddiadurwr y Flwyddyn o blith 19 o enillwyr yn eu categoriau.
Yn eu canmoliaeth, dywedodd y beirniaid: “Mae Newyddiadurwr y Flwyddyn yn newyddiadurwr lleol, sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i ddarllenwyr ac yn taflu goleuni ar faterion pwysig. Mae’r enillydd yn gyson yn mynd y tu ôl i ystadegau oer i roi wyneb dynol i faterion, gan gyfuno gwrthrychedd ag empathi ac ymrwymiad hollbwysig i’r cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu.”
Cafodd y Cambrian News, yn ei fersiynau print ac ar-lein, ganmoliaeth am ei “gryfder talent ysgrifennu, newyddiadurwyr sy’n gweithio yn eu hardal, ac sy’n ymroddedig i’w cymuned..yn cyflwyno newyddion gyda brwdfrydedd digymar ac yn llawn personoliaeth…enghraifft o newyddiaduraeth leol ar ei gorau.”
Disgrifiodd y beirniaid y tair gwobr fel buddugoliaeth i newyddiaduraeth wythnosol ar adeg pan fo’r diwydiant cyfan yn wynebu heriau sylweddol.
Mynychodd tua 200 o westeion y seremoni wobrwyo yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd a oedd yn arddangos rhagoriaeth mewn newyddiaduraeth print, ar-lein a darlledu yn Saesneg a Chymraeg.
Ymhlith yr enillwyr eraill roedd: Elen Wyn, Newyddiadurwr Newyddion Teledu’r Flwyddyn; Wyre Davies, Newyddiadurwr Newyddion Sain y Flwyddyn; Will Hayward, Newyddiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn; Conor Gogarty o Wales Online, Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn; a Hamish Auskerry o ITV News Wales, Newyddiadurwr Hunanlun y Flwyddyn.
Aeth y tlws am Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Teledu y Flwyddyn i BBC Wales Investigates am ei ddatgeliad o garfannau asgell dde eithafol. Islam, Cymru a Ni, ymchwiliad gan BBC Radio Cymru, enillodd y wobr am Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Sain y Flwyddyn.
Pleidleisiwyd Nation Cymru fel Safle Newyddion Ar-lein y Flwyddyn tra bod y Western Mail wedi’i enwi’n Bapur Newydd Dyddiol/Sul y Flwyddyn.
Feiriadwyd y ceisiadau gan tîm profiadol o feirniaid yn cynnwys newyddiadurwyr uwch o Gymru ac ar draws u DU.
Full list of winners/ Rhestr lawn o ennillwyr;
Young Journalist of the Year
Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn
Louise Sadler
Weekly Newspaper of the Year
Papur Newydd Wythnosol y Flwyddyn
Cambrian News
Television News Journalist of the Year
Newyddiadurwr Newyddion Teledu y Flwyddyn
Elen Wyn
Television News and Current Affairs Programme of the Year
Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Teledu y Flwyddyn
Unmasked: Extreme Far Right – BBC Wales Investigates
Television Camera Operator of the Year
Gweithredwr Camera Teledu y Flwyddyn
Luke Collinson
Stills Photographer of the Year
Ffotograffydd Llonydd y Flwyddyn
Rob Norman
Sports Journalist of the Year
Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn
Chris Wathan
Specialist Journalist of the Year
Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn
Conor Gogarty
Self Shoot Journalist of the Year
Newyddiadurwr Hunan-Saethu y Flwyddyn
Hamish Auskerry
Political Journalist of the Year
Newyddiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn
Will Hayward
Podcast of the Year
Podlediad y Flwyddyn
Iconic: The Rise of the Women in Red
Online News Site of the Year
Safle Newyddion Ar-lein y Flwyddyn
Nation Cymru
News Writer of the Year
Awdur Newyddion y Flwyddyn
Debbie Luxon
Feature Writer/Columnist of the Year
Awdur Nodwedd/Colofnydd y Flwyddyn
Delyth Hughes
Ed Townsend Student Journalist of the Year
Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn Ed Townsend
Miriam Hyde
Community Journalism of the Year
Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn
Clonc 360
Daily/Sunday Newspaper of the Year
Papur Newydd Dyddiol/Sul y Flwyddyn
Western Mail
Audio News Journalist of the Year
Newyddiadurwr Sain y Flwyddyn
Wyre Davies
Audio News and Current Affairs Programme the Year
Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Sain y Flwyddyn
Islam, Cymru a Ni (BBC Radio Cymru)
Journalist of the Year
Newyddiadurwr y Flwyddyn
Debbie Luxon