Mae Gwobrau Cyfryngau Cymru 2025 yr Elusen Newyddiadurwyr bellach ar agor i geisiadau.
Bydd y gwobrau, sy’n dathlu’r gorau ym myd newyddiaduraeth Cymru, yn cael eu cynnal Dydd Gwener, 16 Ionawr 2026 yng Ngwesty Parkgate Caerdydd.
Gwahoddir sefydliadau newyddion a newyddiadurwyr unigol i gyflwyno gweithiau a gyhoeddir neu a ddarlledir rhyngddynt 1 Mehefin 2024 a 31 Mai 2025.
Gellir dod o hyd i fanylion y categorïau a’r meini prawf ar sut i gystadlu drwy glicio ar y ddolen isod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Medi 2025.
Cyflwyniadau Gwobrau’r Cyfryngau Cymru 2025 >
Dathlu rhagoriaeth
Disgwylir i tua 200 o westeion – arweinwyr diwydiant, newyddiadurwyr, hyfforddeion, myfyrwyr, noddwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru a’r DU – fynychu’r gwobrau a fydd yn arddangos rhagoriaeth mewn newyddiaduraeth brint, ar-lein a darlledu.
Mae’r gwobrau’n cydnabod unigolion sydd wedi dangos ymrwymiad a chyfraniad eithriadol i newyddiaduraeth yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd tîm nodedig o feirniaid yn cynnwys uwch newyddiadurwyr o Gymru ac o amgylch y DU yn beirniadu’r cynigion. Byddwn yn cyhoeddi rhestr y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mis Tachwedd.
Yn ogystal â dathlu rhagoriaeth, bydd y gwobrau yn helpu i godi arian hollbwysig i Elusen y Newyddiadurwyr.
Bydd gwybodaeth ar sut i brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad cinio gala yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Mae Elusen y Newyddiadurwyr yn ddiolchgar i’n noddwyr, gan gynnwys Prif Noddwr Allwyn a Noddwr Cymorth Cymru Greadigol, heb eu cefnogaeth ni fyddai Gwobrau Cyfryngau Cymru yn bosibl.
Dywedodd Gillian Taylor, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Allwyn, gweithredwr y Loteri Genedlaethol:
“Rydym yn falch iawn o fod yn Brif Noddwr am yr ail flwyddyn yn olynol, gan ddathlu’r goreuon ym myd newyddiaduraeth Cymru. Gyda dros £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer Achosion Da, mae’r Loteri Genedlaethol wrth galon cymunedau ledled y DU ac mae o fudd i fywydau miliynau o bobl – yn union fel y mae’r cyfryngau Cymreig yn ei wneud bob dydd.
“Diolch i gefnogaeth amhrisiadwy gan newyddiadurwyr Cymreig ers 1994, mae enillwyr y Loteri Genedlaethol yn gallu rhannu eu newyddion sy’n newid bywydau, mae deiliaid tocynnau coll yn unedig â’u henillion ac mae ystod enfawr o brosiectau yn gallu amlygu’r gwahaniaeth enfawr y maent yn ei wneud diolch i arian hanfodol y Loteri Genedlaethol. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddathlu gyda’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr ar y noson.”
Dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant:
“Mae Cymru yn frwd dros hyrwyddo newyddiaduraeth cyhoeddus trwy ymgysylltu ystyrlon a mentrau ariannu.”
“Mae’n fraint cael y cyfle i ddathlu’r dalent eithriadol a’r llwyddiannau rhyfeddol sy’n diffinio cyfryngau Cymru.”
Categorïau gwobrau
Awdur Newyddion y Flwyddyn
Newyddiadurwr Newyddion Teledu y Flwyddyn
Newyddiadurwr Newyddion Sain y Flwyddyn
Ffotograffydd Llonydd y Flwyddyn
Gweithredwr Camera Teledu y Flwyddyn
Newyddiadurwr Hunan-Saethu y Flwyddyn
Newydduiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn
Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn
Awdur Nodwedd/Colofnydd y Flwyddyn
Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn
Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn Ed Townsend
Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn
Papur Dyddiol/Sul y Flwyddyn
Papur Newydd Wythnosol y Flwyddyn
Safle Newyddion Ar-lein y Flwyddyn
Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Teledu y Flwyddyn
Podlediad y Flwyddyn
Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Sain y Flwyddyn
Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn
Newyddiaduriaeth y Flwyddyn
Cyfraniad Eithriadol i Newyddiaduraeth
