The Journalists’ Charity Wales Media Awards 2023

25 November, 2022

The Journalists’ Charity Wales Media Awards 2023, celebrating the best in Welsh journalism, will be held in the autumn of next year.

The annual awards, organised by the Wales branch of the Journalists’ Charity, have been running since 2014. The 2023 awards will be held at a prestigious venue in Cardiff.

Around 200-plus guests – industry leaders, journalists, trainees, students, sponsors and stakeholders from around Wales and the UK – are expected to attend the event which will showcase excellence in print, online and broadcast journalism.

The awards recognise individuals who have demonstrated outstanding commitment and contribution to journalism in Wales in both English and Welsh.

Information on how to enter, together with details of the date, the venue and how to purchase tickets will be announced early in the New Year.

A distinguished panel of judges, comprising senior journalists from Wales and around the UK, will judge the entries. We will be announcing the list of nominations later in 2023.

Tim Rogers, Chair of the Wales Media Awards, said:

“The awards represent the very best of Welsh journalism and we are delighted to announce next year’s event which is being held in Cardiff.

“The Wales Media Awards is the only competition that recognises the talent and achievement of journalists and media professionals from across Wales. The Journalists’ Charity, with the generous support of our sponsors, is pleased to be organising this event again.

“One of our founders, Charles Dickens, wrote about the ‘best of times and the worst of times’ and that seems particularly relevant today.

“For our winners there will be recognition and success which we think deserves high praise. But this event also gives us at the Journalists’ Charity an opportunity to promote our important wider work supporting journalists, former journalists and their families who might be facing personal challenges and hardship.

“We have been doing so for more than 150 years and thanks to events such as the Wales Media Awards, will continue to do so in future.”

********************************************************************************************

Cyhoeddi Gwobrau Cyfryngau Cymru 2023 Elusen y Newyddiadurwyr

Bydd Gwobrau Cyfryngau Cymru 2023, sy’n dathlu’r gorau ym myd newyddiaduraeth Cymru, yn cael eu cynnal yn yr hydref blwyddyn nesaf.

Mae’r gwobrau blynyddol, a drefnir gan gangen Cymru o Elusen y Newyddiadurwyr, wedi bod yn rhedeg ers 2014. Bydd gwobrau 2023 yn cael eu cynnal mewn lleoliad mawreddog yng Nghaerdydd.

Disgwylir i tua 200 o westeion – arweinwyr diwydiant, newyddiadurwyr, hyfforddeion, myfyrwyr, noddwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru a’r DU – fynychu’r digwyddiad a fydd yn arddangos rhagoriaeth mewn newyddiaduraeth brint, ar-lein a darlledu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod unigolion sydd wedi dangos ymrwymiad a chyfraniad eithriadol i newyddiaduraeth yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd gwybodaeth am sut i gystadlu, ynghyd â manylion y dyddiad, y lleoliad a sut i brynu tocynnau yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Bydd banel o feirniaid arbenigol yn cynnwys uwch newyddiadurwyr profiadol o Gymru ac o amgylch y DU yn beirniadu’r cynigion. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestr o enwebiadau yn ddiweddarach yn 2023.

Dywedodd Tim Rogers, Cadeirydd Gwobrau Cyfryngau Cymru:

“Mae’r gwobrau’n cynrychioli’r gorau oll o newyddiaduraeth Cymru ac rydym yn blês i gyhoeddi digwyddiad gwobrwyo blwyddyn nesaf yng Nghaerdydd.

“Gwobrau Cyfryngau Cymru yw’r unig gystadleuaeth sy’n cydnabod talent a chyflawniad newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol y cyfryngau o bob rhan o Gymru  – ac mae’n bleser gan Elusen y Newyddiadurwyr, gyda chefnogaeth hael ein noddwyr, drefnu’r digwyddiad hwn eto.

“Ysgrifennodd un o’n sylfaenwyr, Charles Dickens, am yr ‘adegau gorau a’r adegau gwaethaf’ ac mae hynny’n ymddangos yn arbennig o berthnasol heddiw.

“I’n henillwyr bydd cydnabyddiaeth a llwyddiant sydd, yn ein barn ni, yn haeddu canmoliaeth uchel. Ond mae’r digwyddiad hwn hefyd yn rhoi cyfle i ni yn Elusen y Newyddiadurwyr hyrwyddo ein gwaith ehangach pwysig yn cefnogi newyddiadurwyr, cyn-newyddiadurwyr a’u teuluoedd a allai fod yn wynebu heriau personol a chaled.

“Rydym wedi bod yn gwneud hynny ers dros 150 o flynyddoedd a diolch i ddigwyddiadau fel Gwobrau Cyfryngau Cymru byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.”