Journalists’ Charity Wales Media Awards 2022

13 October, 2021

The Journalists’ Charity Wales Media Awards 2022 are now open for entries!

To see the categories, view the criteria and submit your work, please go to www.walesmediaawards.co.uk.

We’re looking for work which will have appeared between 1 October 2020 and 30 September 2021. Work published or broadcast between 1 March 2020 and 30 September 2021 relating to the COVID pandemic ONLY will also be accepted.

The closing date for entries is Friday November 12th.

The free-to-enter Awards are once again supported by headline sponsor Camelot and celebrate and promote great journalism in Wales – work produced in Wales, for an audience in Wales, by journalists, photographers and camera operators.

They will be presented at a ceremony at the Mercure Holland House Hotel in Cardiff on 25 March 2022 hosted by BBC Cymru Wales presenter Lucy Owen and ITV Cymru Wales’ Jonathan Hill.

The Journalists’ Charity Wales Media Awards are organised by Spencer David with the support of headline sponsor Camelot and a range of other sponsors.

They are organised as a fundraiser for the charity, which helps journalists and their dependants with advice, grants and other forms of financial assistance. For more information about the work of the charity, click here.

***********************************************************

Gwobrau Cyfryngau Cymru 2022 Elusen y Newyddiadurwyr

Mae Gwobrau Cyfryngau Cymru 2022 Elusen y Newyddiadurwyr bellach ar agor ar gyfer ceisiadau!

I weld y categorïau a’r meini prawf ac i gyflwyno’ch gwaith, ewch i https://www.gwobraucyfryngaucymru.co.uk/.

Rydyn ni’n chwilio am waith a fydd wedi ymddangos rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021. Caiff gwaith a gyhoeddwyd neu a ddarlledwyd rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Medi 2021 yn ymwneud â phandemig COVID yn UNIG ei dderbyn hefyd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 12 Tachwedd.

Caiff y Gwobrau – y gellir gwneud cais iddynt yn rhad ac am ddim – eu cefnogi unwaith eto gan ein prif noddwr, Camelot, ac maent yn dathlu ac yn hyrwyddo newyddiaduraeth ragorol yng Nghymru – gwaith a gynhyrchwyd yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru, gan newyddiadurwyr, ffotograffwyr a gweithredwyr camera.

Cânt eu cyflwyno mewn seremoni yng ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd ar 25 Mawrth 2022 yng nghwmni’r cyflwynydd BBC Cymru Wales Lucy Owen a Jonathan Hill o ITV Cymru Wales.

Caiff Gwobrau Cyfryngau Cymru Elusen y Newyddiadurwyr eu trefnu gan Spencer David gyda chefnogaeth y prif noddwr, Camelot a llu o noddwyr eraill.

Cânt eu trefnu i godi arian ar gyfer yr elusen, sy’n helpu newyddiadurwyr a’u dibynyddion gyda chyngor, grantiau a mathau eraill o gymorth ariannol. I gael rhagor o wybodaeth am waith yr elusen, cliciwch yma.