Cyhoeddi Gwobrau Cyfryngau Cymru 2024

Fydd y cinio i ddathlu’r gorau ym myd newyddiaduraeth Cymru, yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar nos Wener, Tachwedd 15

Cyhoeddi Gwobrau Cyfryngau Cymru 2024

  • Gwobrau Cyfryngau Cymru 2024 nawr ar agor ar gyfer ceisiadau
  • Mae’r gwobrau yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i newyddiaduraeth yng Nghymru
  • Cinio gwobrau i’w gynnal yng Ngwesty Parkgate Caerdydd ddydd Gwener, Nos Wener, Tachwedd 15

Mae Gwobrau Cyfryngau Cymru 2024 Elusen y Newyddiadurwyr bellach ar agor i geisiadau.

Gwahoddir sefydliadau newyddion a newyddiadurwyr unigol i gyflwyno gweithiau a gyhoeddir neu a ddarlledir rhyngddynt 1 Mehefin 2023 a 31 Mai 2024

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Gorffennaf 2024.

Mae Gwobrau Cyfryngau Cymru yn cydnabod unigolion sydd wedi dangos ymrwymiad a chyfraniad eithriadol i newyddiaduraeth yng Nghymru yn y Gymraeg a’r Saesneg ar draws newyddiaduraeth brint, ar-lein a darlledu.

Mae manylion y categorïau a’r meini prawf ar sut i gystadlu i’w gweld yma.

I wneud eich cais ewch i’r dudalen Cyflwyniadau >

Eleni bydd 21 o wobrau gan gynnwys categori newydd Podlediad y Flwyddyn.

Bydd tîm o feirniaid profiadol yn cynnwys uwch newyddiadurwyr o Gymru ac o amgylch y DU yn beirniadu’r cynigion. Byddwn yn cyhoeddi rhestr y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mis Medi.

Arddangosiad ar gyfer rhagoriaeth

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cinio gwobrau gala a gynhelir yng Ngwesty Parkgate Caerdydd ar Nos Wener, 15 Tachwedd 2024.

Disgwlyir i 200 o westeion – arweinwyr diwydiant, newyddiadurwyr, hyfforddeion, myfyrwyr, noddwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru a’r DU – fynychu’r gwobrau.

Yn ogystal â dathlu rhagoriaeth, bydd y gwobrau yn helpu i godi arian hollbwysig i Elusen y Newyddiadurwyr.

Y llynedd, cododd y gwobrau miloedd o bunnoedd er budd newyddiadurwyr mewn angen.

Bydd gwybodaeth ar sut i brynu tocynnau ar gyfer y cinio gwobrwyo yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Dywedodd Christine Warwick, Cadeirydd Elusen y Newyddiadurwyr ac aelod o Bwyllgor Cymru:

“Y llynedd cawsom y nifer uchaf erioed o geisiadau o ansawdd uchel iawn. Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau o safon debyg eto eleni.”

Ychwanegodd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl noddwyr, heb eu cymorth ni fyddai Gwobrau Cyfryngau Cymru yn bosibl.”

Dyddiadau allweddol

3 Mehefin: Ar agor i geisiadau
12 Gorffennaf: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Gorffennaf-Awst: Beirniadu
Medi: Cyhoeddi enwebiadau
15fed Tachwedd: Cinio Gwobrau, Gwesty Parkgate, Caerdydd

************************************************************************************

Wales Media Awards 2024/ Gwobrau Cyfryngau Cymru 2024
Categories/Categoriau

News Writer of the Year
Awdur Newyddion y Flwyddyn

Television News Journalist of the Year
Newyddiadurwr Newyddion Teledu y Flwyddyn

Audio News journalist of the Year
Newyddiadurwr Newyddion Sain y Flwyddyn

Stills photographer of the Year
Ffotograffydd Llonydd y Flwyddyn

Television Camera Operator of the Year
Gweithredwr Camera Teledu y Flwyddyn

Self-Shoot Journalist of the Year
Newyddiadurwr Hunan-Saethu y Flwyddyn

Political Journalist of the Year
Newydduiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn

Sports Journalist of the Year
Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn

Feature Writer/Columnist of the Year
Awdur Nodwedd/Colofnydd y Flwyddyn

Specialist Journalist of the Year
Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn

Ed Townsend Student Journalist of the Year
Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn Ed Townsend

Young Journalist of the Year
Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn

Daily /Sunday Newspaper of the Year
Papur Dyddiol/Sul y Flwyddyn

Weekly Newspaper of the Year
Papur Newydd Wythnosol y Flwyddyn

Online News Site of the Year
Safle Newyddion Ar-lein y Flwyddyn

Television News and Current Affairs Programme of the Year
Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Teledu y Flwyddyn

Podcast of the Year
Podlediad y Flwyddyn

Audio News and Current Affairs programme of the Year
Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes Sain y Flwyddyn

Community Journalism of the Year
Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn

Journalism of the Year
Newyddiaduriaeth y Flwyddyn

Outstanding Contribution to Journalism Award
Cyfraniad Eithriadol i Newyddiaduraeth

 

Wales Media Awards 2024 Submissions >

I wneud eich cais ewch i’r dudalen Cyflwyniadau >

 

Ceisiadau

Mae’r cyfnod mynediad ar gyfer gwaith a gyhoeddwyd neu a ddarlledwyd rhwng 1 Mehefin 2023 a 31 Mai 2024.

Bydd panel o feirniaid nodedig, yn cynnwys uwch newyddiadurwyr o Gymru ac o amgylch y DU, yn beirniadu’r cynigion. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestr o enwebiadau yn ddiweddarach yn 2023. Ewch i’r adrannau cysylltiedig i gael gwybodaeth am gategorïau a meini prawf, a sut i gystadlu.

Tocynnau cino gwobrwyo

Bydd gwybodaeth ar sut i brynu tocynnau ar gyfer y gwobrau hefyd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach. Yn ogystal â dathlu llwyddiant unigol a chyfunol, mae’r gwobrau hefyd yn arddangos gwaith ehangach Elusen y Newyddiadurwyr yn cefnogi newyddiadurwyr – gweithio neu ymddeol – a allai fod yn wynebu heriau a chaledi personol.

Rydym wedi bod yn gwneud hynny ers dros 150 o flynyddoedd a diolch i ddigwyddiadau fel Gwobrau Cyfryngau Cymru byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Noddwyr a Chefnogwyr

Mae Gwobrau Cyfryngau Cymru blynyddol Elusen y Newyddiadurwyr yn
cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i newyddiaduraeth yng Nghymru. Mae hyn ar adeg pan nad yw cyfryngau newyddion rhydd erioed wedi bod yn bwysicach mewn cymdeithas ddemocrataidd.

Mae Elusen y Newyddiadurwyr yn ddiolchgar iawn i’n noddwyr; na fyddai Gwobrau Cyfryngau Cymru yn bosibl heb eu cefnogaeth.

Hoffai Elusen y Newyddiadurwyr ddiolch hefyd BBC Cymru Wales, asiantaeth PR Cowshed a Natasha Hirst Photography am eu cefnogaeth.

 

SIGN UPNOW